Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-16-12 papur 1

Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

 

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadeiriau Olwyn.

 

Cyflwyniad

 

Cynhaliwyd ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Lles Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru a chyflwynodd adroddiad ym mis Mai 2010 gyda 23 o argymhellion.  Yn dilyn hynny, anfonodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wybodaeth ysgrifenedig at Gadeirydd y Pwyllgor ym mis Tachwedd 2010 yn dilyn rhyddhau adroddiad Adolygiad ar Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan Cam 2.  Mae’r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd at fis Tachwedd pryd cyfarfu Bwrdd Partneriaeth Ystum  a Symudedd Cymru gyfan ddiwethaf.

 

Cefndir

 

Ym mis Mai 2008, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad o’r ddarpariaeth cadeiriau olwyn yng Nghymru.  Byddai’r adolygiad yn cwmpasu benthyca cadeiriau olwyn i oedolion a phlant yn yr hirdymor a’r tymor byr.  Cynhaliwyd yr adolygiad mewn dau gam.  Cyflwynwyd adroddiad Cam 1 i’r Gweinidog ym mis Hydref 2009, a oedd yn disgrifio’r ddarpariaeth gwasanaeth ar draws Cymru, yn cynnwys sut yr oedd gwasanaethau yn cael eu rheoli. Roedd yr adolygiad yn argymell newidiadau i wella profiad defnyddwyr gwasanaeth.

 

Ym mis Mai 2010, cyhoeddwyd adroddiad Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol ar yr ‘Ymchwiliad i Wasanaethau Cadeiriau Olwyn yng Nghymru’.  Cyflwynwyd tair ar hugain o argymhellion gan y Pwyllgor.

 

Ymatebodd y Gweinidog i adroddiad y Pwyllgor ym mis Mehefin 2010, gan dderbyn pob un o’r argymhellion.  Dechreuwyd bwrdd prosiect ar gyfer adolygiad Cam 2 o’r gwasanaethau Ystum Corff a Symudedd a chyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mai Ms. Sue Kent, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan fyddai’r Cadeirydd.  Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Prosiect ym mis Mai 2010.  Sefydlwyd Grŵp Cyfeirio Ehangach hefyd i gefnogir Bwrdd Prosiect.  Bur Bwrdd Prosiect yn canolbwyntio ar brif themâu gwaith Cam 1 gan ddatblygur argymhellion ymhellach er mwyn sicrhau bod y cynigion ar wellar gwasanaeth yn mynd ir afael â’r prif faterion a nodwyd.  Trefnwyd ffrydiau gwaith i ystyried y prif faterion a datblygu argymhellion i’w gweithredu.  Roedd gwaith y ffrydiau gwaith unigol yn edrych yn fanwl ar y meini prawf cymhwyster, y dangosyddion ansawdd a’r dangosyddion perfformiad allweddol ynghyd â chamau gweithredu amrywiol i sicrhau bod gwasanaeth effeithlon ac effeithiol yn cael ei ddarparu i ddefnyddwyr sefydledig a defnyddwyr newydd.

 

Cyflwynodd y bwrdd prosiect adroddiad ym mis Hydref 2010, ac anfonwyd copi at Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar y pryd, gyda manylion y gwelliannau yr oedd angen eu gwneud.

 

Un o’r argymhellion yn yr adroddiad oedd gweithredu manylebau ar gyfer cadeiriau olwyn ar sail Cymru Gyfan a rheoli perfformiad drwy Fwrdd Partneriaeth a fyddai’n disodli’r Grŵp Llywio Ystum Corff a Symudedd blaenorol.

 

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan, wedi’i gadeirio a’i arwain gan Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC), fel comisiynwyr y gwasanaethau cadeiriau olwyn, i oruchwylio’r holl raglenni gwaith.  Mae’r Bwrdd Partneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth ac mae’n adolygu perfformiad yn erbyn dangosyddion ansawdd a pherfformiad y cytunwyd arnynt.  Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn chwarterol a chynhelir  y cyfarfod nesaf ar 1 Mawrth 2012.

 

Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS) yn cael ei ddarparu drwy gydweithrediad tri Bwrdd Iechyd Lleol (BILl): Caerdydd a’r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr.  Mae canolfannau’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam ac maent yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth ledled Cymru.  Mae’r Awdurdodau hyn yn cael eu cefnogi gan Unedau Peirianneg Adsefydlu (REU) yng Nghaerdydd, Abertawe ac Ysbyty Bryn y Neuadd yng Ngogledd Cymru.  Mae’r Unedau’n darparu atebion pwrpasol ar gyfer gofynion mwyaf cymhleth cleifion.

 

 

Argymhelliad 1

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod manyleb gwasanaeth lawn, cenedlaethol yn cael ei pharatoi, gan gynnwys manylion am ddull y gwasanaeth o gydweithio â sefydliadau ac unigolion eraill; cyllido ar y cyd â sefydliadau ac unigolion; a gwybodaeth am dargedau perfformiad a systemau monitro.

 

Y Diweddaraf

Mae’r fanyleb gryno ar fin cael ei chwblhau a bydd yn ffurfio’r sail ar gyfer y cynllun gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan a datblygu manyleb gyflawn.  Mae fframwaith yn cael ei ystyried hefyd ar gyfer gwneud penderfyniadau, sy’n seiliedig ar feini prawf a lefelau penderfynu amrywiol a fydd yn gweithredu fel atodiad i’r uchod.  Bydd hyn yn darparu eglurder i ddefnyddwyr gwasanaeth a chlinigwyr ynglŷn âdarparu cyfarpar.  Bwriedir ir gwaith hwn gael ei gyflwyno ai gymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth yn y cyfarfod nesaf ar 1 Mawrth.  Maer gwaith hwn yn cyd-fynd â’r meini prawf cymhwyster a gwblhawyd mewn cam cynharach.

 

Fel y sefydliad comisiynu, mae WHSSC yn ei gwneud yn ofynnol i’r gwasanaeth weithio i gydymffurfio â meini prawf Atgyfeirio ar gyfer Triniaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau aciwt, a’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant.

 

 

Argymhelliad 2

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun strategol, i roi cyfeiriad i’r gwasanaeth dros y blynyddoedd nesaf. Dylid gwneud hyn ar y cyd â’r darparwyr gwasanaeth, defnyddwyr, rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb.

 

Y Diweddaraf

Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a darparwyr gwasanaeth a fydd yn darparu cyfeiriad strategol i’r gwasanaeth yn y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys datblygu manylebau gwasanaeth a dangosyddion ansawdd. 

 

Sefydlwyd ffrwd waith ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau bod safbwyntiau staff, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid yn llywio datblygiad y gwasanaeth cadeiriau olwyn yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r ymagwedd yn cael ei harwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth ac yn cael ei gefnogi gan Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH) a bydd yn ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth yn benodol er mwyn:

 

Y bwriad yw cynhyrchu model fel rhan o’r ffrwd gwaith hwn i gasglu safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd a darparu dolen adborth a fydd yn hysbysu’r broses o gyflenwi a datblygu gwasanaethau.

 

 

Argymhelliad 3

Rydym yn argymell y dylai’r cynllun strategol roi sylw i’r angen i integreiddio’r gwasanaeth yn well â gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau eraill y GIG, ac â’r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Y Diweddaraf

Mae gwasanaethau ALAS yn cydweithio’n agos gyda staff cymunedol, ar sail unigol a hefyd er enghraifft drwy ddarparu hyfforddiant i grwpiau proffesiynol megis nyrsys hyfywedd meinwe ledled Cymru.  Mae fideo hyfforddiant wedi’i ddatblygu hefyd i’w ddefnyddio gan Therapyddion, adrannau gofal cymdeithasol a sefydliadau’r Trydydd Sector.

 

Sefydlwyd system i gylchdroi staff therapi i ALAS.  Yn Ne Cymru, mae gan y gwasanaeth swyddi Band 6 cylchdro blwyddyn sy’n galluogi therapyddion galwedigaethol o wasanaethau eraill i feithrin lefel uchel o arbenigedd wrth asesu a gosod ar gyfer materion yn ymwneud ag ystum corff a symudedd,  Yna, caiff y sgil yma ei rannu a’i drosglwyddo i gydweithwyr eraill gan arwain at welliannau yn  ansawdd yr atgyfeiriadau a galluogi gwasanaethau ALAS i ragnodi yn syth ar ôl atgyfeirio.

 

Yng Ngogledd Cymru, sefydlwyd swydd gylchdro therapydd 12 mis gyda gwasanaeth cymunedol y BILl i weithio yn ALAS.  Bydd hyn yn gwella’r sail wybodaeth yn y Gwasanaethau Therapi Cymunedol a hyrwyddo cydweithio.

 

 

Argymhelliad 4

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod y trefniadau am wasanaeth cadeiriau olwyn wedi’i ailstrwythuro’n cynnwys cyfrifoldebau a llinellau atebolrwydd clir ar gyfer cyflenwi’r gwasanaeth.

 

Y Diweddaraf

Mae’r BILlau a gwasanaethau ALAS yn mynd i’r afael â hyn, drwy gydweithio’n agos i gytuno ar fanylebau ar y cyd mewn cydweithrediad â’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH).  Mae gwaith ailstrwythuro wedi dechrau gan greu un gwasanaeth ALAS, o’r ALAS a’r REU blaenorol, o fis Awst 2011.  Yng Ngogledd Cymru, sefydlwyd swydd newydd Cyfarwyddwr Clinigol ac mae’r strwythurau staffio newydd yn cael eu hadolygu.

 

 

Argymhelliad 5

Rydym yn argymell y dylai mesurau perfformiad newydd ganolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr, gan ystyried eu hanghenion ehangach.

 

Y Diweddaraf

Hyd yma, mae’r gwaith ar ddangosyddion perfformiad wedi canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth ymatebol sydd wedi’i nodi fel un o anghenion defnyddwyr gwasanaeth.  Datblygwyd dangosyddion perfformiad allweddol, sy’n cynnwys:

 

Mae Atgyfeiriad at Driniaeth (RTT) yn gosod fframwaith o reolau ar gyfer dechrau’r cloc a stopio’r cloc i fesur amseroedd aros i gleifion wrth ddefnyddio’r GIG.  Mae’r cloc yn dechrau ar ôl derbyn atgyfeiriad wedi’i gwblhau.  Ar gyfer y Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn, mae’r cloc yn stopio ar ôl i’r cleient dderbyn cadair olwyn.

 

Cydnabod Atgyfeiriadau. Mae hyn yn mesur yr amser rhwng derbyn atgyfeiriad a chyhoeddi cydnabyddiaeth i’r atgyfeiriwr a’r defnyddiwr gwasanaeth. 

 

Amser o’r Atgyfeiriad i gyflenwi cadair olwyn safonol. Mae hyn yn mesur yr amser rhwng y pwynt atgyfeirio a’r pwynt cyflenwi cadair olwyn safonol i gleient.

 

Amser o’r atgyfeiriad i’r amser cyflenwi cadair olwyn gymhleth a/neu system rheoli ystum corff a archebwyd gan wneuthurwr.  Mae hyn yn mesur yr amser rhwng y pwynt atgyfeirio a’r pwynt cyflenwi cadair olwyn gymhleth i’r cleient.

 

Wedi’i atgyweirio ar amser (Atgyweiriadau brys). Mae hyn yn mesur perfformiad y Gwasanaeth Cadair Olwyn yn erbyn atgyweiriadau brys.

 

Wedi’i atgyweirio ar amser (Atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys) Mae hyn yn mesur perfformiad y Gwasanaeth Cadair Olwyn yn erbyn atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys.

 

Wedi’i gasglu ar amser (Atgyweiriadau nad ydynt yn rhai brys) Mae hyn mesur perfformiad y Gwasanaeth Cadair Olwyn a’r atgyweiriwr yn erbyn y gwasanaeth casglu.

 

Gweler hefyd y wybodaeth yn Argymhelliad 2 a fydd hefyd yn hysbysu unrhyw ddangosyddion pellach y gallai fod angen eu casglu.

 

 

Argymhelliad 6

Rydym yn argymell y dylai’r Gweinidog barhau i adolygu’r mesurau perfformiad a’r targedau a gynllunnir, ac y dylai gyflwyno sancsiynau am ddiffyg cydymffurfio.

 

Y Diweddaraf

Mae’r NLIAH a’r Uned Gyflenwi Gwasanaeth (DSU) wedi bod yn cynorthwyo ALAS i sicrhau bod amseroedd aros yn cael eu mesur yn unol â mesurau’r broses Atgyfeirio at Driniaeth.  Mae’r DSU yn cynnal asesiadau yn y ddwy ganolfan er mwyn sicrhau bod hyn ar waith.

 

Bydd WHSCC yn casglu data perfformiad o fis Ebrill 2012 ymlaen.  Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn adroddiadau am y rhain a bydd BILl yn atebol i gyflenwi’r safonau perfformiad gofynnol.

 

 

Argymhelliad 7

Rydym yn argymell y dylai’r fanyleb gwasanaeth gynnwys cynllun gweithredu, sy’n cynnwys targedau a cherrig milltir, i fodloni safonau’r NSF Plant ar gadeiriau olwyn.

 

Y Diweddaraf

Mae’r gwaith hwn wedi’i gynnwys yn y wybodaeth am Atgyfeirio am Driniaeth. Yn Ne Cymru mae'r safonau Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol wedi’u cyflawni a gweithredwyd adolygiadau blynyddol ar gyfer gwasanaeth cadeiriau olwyn i blant ac mewn adolygiadau chwe mis yn REU Caerdydd.

Yng Ngogledd Cymru, bydd gwasanaeth ALAS yn darparu asesiadau ar gyfer pob plentyn o fewn 6 wythnos o gael eu hatgyfeirio, erbyn diwedd mis Mawrth 2012.  Mae’r gwasanaeth yn bwriadu cydymffurfio’n llwyr â’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol erbyn diwedd mis Mawrth yn cynnwys 8 wythnos rhwng cyflenwi a gosod cyfarpar.

 

 

Argymhelliad 8 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod y gwasanaeth yn paratoi strategaeth gyfathrebu, i amlinellu sut y bydd yn gwella cyfathrebu â defnyddwyr a rhanddeiliaid. Dylid llunio’r strategaeth gyfathrebu hon a’i chyflwyno fel mater o frys.

 

Y Diweddaraf

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Ffrwd Gwaith Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth Cymru Gyfan, gyda gweithgor yn cynnwys aelodau ALAS a defnyddwyr gwasanaeth am gyfnod o dair blynedd i:

 

 

Dechreuodd y gwaith hwn yn 2011 yn dilyn proses dendro gystadleuol.  Penodwyd gwasanaeth ymgynghori allanol (Kafka Brigade), i gynorthwyo’r gweithgor i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o brofiadau defnyddwyr yn ystod blwyddyn gyntaf y strategaeth.  Nod rhannol y broses hon oedd dechrau creu cohort o ddefnyddwyr gwasanaeth a staff a fydd yn mynd ymlaen i gyd-gynllunio gwasanaethau yn y dyfodol yn ystod yr ail flwyddyn gan ddefnyddio Cydgynllun yn Seiliedig ar Brofiad (EBCD) a gymeradwywyd gan y Kings Fund.  Bydd y canfyddiadau yn llywio system adborth a fydd yn ffynhonnell wybodaeth barhaus i ALAS.  Rhagwelir hefyd y bydd y gwaith sylfaenol cynhwysfawr hwn gyda defnyddwyr gwasanaeth ALAS yn dechrau dialog lle gall y gwasanaeth sicrhau dealltwriaeth well o’r ffordd y byddai defnyddwyr gwasanaeth yn hoffi derbyn gwybodaeth am ddatblygiadau o fewn y gwasanaeth.

 

 

Argymhelliad 9

Rydym yn argymell y dylai’r strategaeth gyfathrebu gynnwys mesurau i ddarparu gwell gwybodaeth i ddefnyddwyr yn gyffredinol, ond yn enwedig am gynnydd o fewn y system.

 

Y Diweddaraf

Gweler yr ymateb i Argymhelliad 8 ynglŷn â’r ffrwd Gwaith Ymgysylltu â Defnyddwyr Gwasanaeth.

 

 

Argymhelliad 10

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio, gyda’r gwasanaeth, mudiadau gwirfoddol ac elusennau, opsiynau i ddarparu’r datrysiadau dros dro gorau posibl i ddefnyddwyr a fydd yn aros am gyfnodau arwyddocaol am gyflenwi neu gynnal a chadw cadair.

 

Y Diweddaraf

Mae pob gwasanaeth ALAS wedi datblygu atebion ymarferol i’r mater hwn:

 

Yn Ne Cymru mae’r NLIAH wedi cynorthwyo ALAS De Cymru i ddatblygu clinig atgyweirio galw heibio yng Nghaerdydd i alluogi asesu ac atgyweirio cyfarpar cleientiaid ar adeg sy’n gyfleus iddynt hwy.  Mae gyrrwr cyflenwi a gosodwr hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer Gorllewin Cymru sy’n lleihau amseroedd a chostau teithio ac sydd hefyd yn golygu bod gwasanaeth mwy cyfleus a hygyrch ar gael i gleientiaid yn yr ardal honno.

 

Yng Ngogledd Cymru, mae’r gwasanaeth ALAS yn canfod cadair briodol y gellir ei benthyg ar sail dros dro (mor agos â phosibl i’r fanyleb wreiddiol) ac yn awdurdodi’r atgyweiriwr cymeradwyo i’w chyflenwi wrth i addasiadau neu atgyweiriadau gael eu gwneud.  Mae ALAS yn gweithio gyda’n hatgyweiriwyr cymeradwy er mwyn osgoi achosion o oedi pan fydd yn bosibl e.e. drwy gadw lefelau uwch o ddarnau sbâr.

 

 

Argymhelliad 11

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o anghenion adnoddau hirdymor y gwasanaeth, gan roi ystyriaeth benodol i’r adnoddau sy’n ofynnol er mwyn cynnal gwell amseroedd aros; darparu adolygiadau rheolaidd i rai defnyddwyr; a chlirio ôl-groniad y rhestr aros yng Ngogledd Cymru. Yna, dylai’r Llywodraeth roi datganiad clir sy’n amlinellu sut y mae’n bwriadu bodloni’r gofynion hyn o ran adnoddau yn y cylch cyllideb presennol.

 

Y Diweddaraf

Mae NLIAH wedi cynorthwyo’r gwasanaeth i gynnal dadansoddiad o gapasiti a galw sydd, yn Ne Cymru, wedi adnabod nifer o welliannau gwasanaeth a fydd yn rhyddhau 13% o amser clinigol; cynyddu clinigau ategol; cyflwyno clinigau un stop a chlinigau penwythnos a fydd yn lleihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau pediatreg i uchafswm o 5 wythnos ac amseroedd aros i oedolion am asesiadau i uchafswm o 16 wythnos.

 

Cynhelir dadansoddiad tebyg o gapasiti a galw ar gyfer Gogledd Cymru ym mis Ebrill a disgwylir buddiannau a gwelliannau tebyg.  Cafwyd oedi ynghylch hyn oherwydd materion staffio.

 

Gwelwyd buddsoddiad canolog o £2.2 miliwn i gynyddu capasiti sydd wedi’i dargedu’n benodol i wella ansawdd gwasanaethau plant. Mae gwelliannau mewn gwasanaethau plant wedi cynnwys moderneiddio ac ailgynllunio gwasanaethau a rhagwelir y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar amseroedd aros oedolion.

 

 

Argymhelliad 12

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio cyfleoedd i gydweithio rhwng ALAS a sefydliadau, elusennau, therapyddion cymunedol ac eraill, ac y dylai hyn ffurfio rhan ganolog o gynllun strategol y gwasanaeth.

 

Y Diweddaraf

Mae’r AGAAGI wedi cefnogi ALAS wrth ddatblygu clinigau ar y cyd, sy'n sicrhau bod yr atgyfeiriwr a’r Technegydd Cadair Olwyn neu’r Therapydd Galwedigaethol Cadair Olwyn yn asesu gyda'i gilydd i ddatblygu ateb rhagnodol diffiniol gan leihau’r llwybr i'r defnyddiwr gwasanaeth.

 

Gweler hefyd y diweddariad ar gyfer Argymhelliad 17

 

 

Argymhelliad 13

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n sicrhau y gwneir ymdrechion i symleiddio’r broses atgyfeirio, o bosibl drwy ddatblygu adnoddau ar-lein.

 

Y Diweddaraf

Mae datblygu trefniadau atgyfeirio, yn cynnwys protocolau a phrosesau wedi bod yn rhan allweddol o'r gwaith a wnaed fel sy'n cael ei nodi gan yr enghreifftiau isod:

 

Mae gwasanaethau ALAS yn gwneud y newid i'r rheolau cenedlaethol ar gyfer atgyfeirio am driniaeth (RTT) ac mae adnodd ar-lein wedi cael ei ddatblygu. Caiff pob atgyfeiriad ei flaenoriaethu o fewn 24 awr o'i dderbyn ac mae system TG bwrpasol BEST (Gwell Gwasanaethau Cyfarpar ar y Cyd) yn caniatáu cofnodi cleifion ar y system ar adeg eu hatgyfeirio, casglu'r wybodaeth atgyfeirio am driniaeth a darparu system adrodd cadarn ar gyfer adrodd neu rybuddio am  unrhyw un allai fynd yn groes i'r atgyfeiriad am driniaeth.

 

Mae'r AGAAGI wedi sefydlu Ffrwd Waith Atgyfeiriadau i adolygu'r broses atgyfeirio gyda'r nod o ddatblygu ffurflen atgyfeirio well sy'n gyson ar draws y Gwasanaethau De a Gogledd Cymru. Yn dilyn archwiliad o atgyfeiriadau i Dde Cymru gan adolygu 12 mis o ddata atgyfeirio, dychwelwyd 5.6% o'r holl atgyfeiriadau i'r atgyfeiriwr fel rhai anghyflawn, gyda 22% pellach o'r rhain yn cael eu dychwelyd am yr eildro.  Nododd yr archwiliad hefyd y rhesymau cyffredin dros anfon atgyfeiriadau yn ôl, er enghraifft, mesuriadau cleientiaid annigonol. O ganlyniad, mae'r ffurflen a ailddyluniwyd yn ceisio cael eglurder ynghylch y safonau mesur disgwyliedig ac fe gynhyrchwyd fideo esboniadol ar gyfer atgyfeirwyr gan yr Hyfforddwr Cymru Gyfan.

 

Mae gweithdy terfynol i gytuno ar ffurflen atgyfeirio ddiwygiedig i’w threialu yn cael ei drefnu ar hyn o bryd a rhagwelir y caiff ei gynnal ym Mawrth 2012. Yn y cyfarfod hwn, bydd Soft Options, datblygwyr y system TG BEST, yn arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn atgyfeiriadau electronig er mwyn trafod sut y gellir datblygu hyn yn y dyfodol o fewn ALAS.

Bydd ffrwd waith AGAAGI yn cynhyrchu ffurflen atgyfeirio newydd a fydd yn symleiddio'r broses atgyfeirio, ac yn y pen draw yn darparu cyfleuster atgyfeirio electronig y gellir ei defnyddio gyda'r system rheoli cleifion bresennol (BEST).

 

 

Argymhelliad 14

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y ceir digon o therapyddion cymunedol sydd wedi’u hyfforddi i gynnal asesiadau Lefel 3.

 

Y Diweddaraf

Bwriad yr argymhelliad hwn oedd cynorthwyo gyda'r lleihad cynaliadwy mewn amseroedd aros ar gyfer asesiadau. Fodd bynnag, ers yr adolygiad gyda’r lefel o wella parhaus ni theimlir bod angen dwys bellach am therapyddion cymunedol sydd wedi’u hyfforddi i gynnal asesiadau Lefel 3.

 

Ar draws Cymru cafodd dros 1000 o staff cymunedol ac atgyfeirwyr eu hyfforddi i lefel 1 ac mae atgyfeirwyr wedi cael eu hyfforddi i lefel 1 fel y mae staff o fewn y Groes Goch Brydeinig hefyd. I wneud defnydd llawn o alluoedd asesu y therapyddion cymunedol hynny sydd wedi’u hyfforddi i Lefel 3 byddai gofyn eu diweddaru'n gyson ar dros 160 o ddarnau cyfarpar. Felly mae'r gwasanaethau ALAS yn teimlo nad hyfforddi therapyddion cymunedol i’r lefel hon yw'r ffordd orau o gyflawni'r amcan hwn a rhoddir cynlluniau eraill yn eu lle i hyfforddi clinigwyr cymunedol i wneud atgyfeiriadau da i mewn i'r gwasanaeth.

 

Er enghraifft, yn rhanbarth Gogledd Cymru mae 7 o Aseswyr Dibynadwy yn eu lle ar hyn o bryd sydd wedi derbyn hyfforddiant uwch. Mae'r Aseswyr Dibynadwy sy’n gweithio yn y gymuned yn staff sy'n gymwys i gyflawni cyfres gytunedig o gymwyseddau cydnabyddedig cenedlaethol ac mae ganddynt sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth angenrheidiol ar gyfer ymagwedd 'gwasanaeth-defnyddiwr' effeithiol i ddarparu cyfarpar, ar ba bynnag rôl neu lefel y maent yn gweithio ynddo. Yng nghyd-destun yr hyfforddiant hwn, maent yn gallu asesu a rhagnodi cyfarpar a thrwy hynny leihau'r baich gwaith ar gyfer therapyddion a swyddogion technegol ALAS Gogledd Cymru.

 

Yn Ne Cymru mae ALAS yn systematig wedi lleihau amseroedd aros paediatrig ac oedolion ar gyfer asesu. Llwyddwyd i gyflawni hyn oherwydd amrywiaeth o welliannau sy’n cynnwys:

a.    Gwelliannau yn y cysylltiadau rhwng system TG BEST a system gaffael ORACLE gan leihau dyblygu a galluogi archebu cyflymach

b.    Datblygiadau yn system TG BEST sy'n hwyluso system fwy effeithlon i gadw nodiadau.

c.    Penodi staff cymorth gweinyddol ar gyfer y timau clinigol a thechnegol sydd wedi eu rhyddhau i ymgymryd â dyletswyddau mwy cymhleth

d.    Blaenoriaethu pob atgyfeiriad o fewn 24 awr o'i dderbyn.

 

Mae’r lefel yma o wella parhaus yn golygu nad oes angen bellach hyfforddi therapyddion cymunedol yn Ne Cymru i gynnal asesiadau Lefel 3.

Mae'r AGAAGIhefyd wedi cefnogi swydd hyfforddi ledled Cymru trwy ddatblygu DVD. Bwriad yr adnodd DVD yma yw cefnogi hyfforddiant atgyfeirwyr trwy ddarparu cyfarwyddiadau clir a phenodol ar y mesuriadau gofynnol a sut y dylid ymgymryd â'r rhain. Mesuriadau anghywir neu anghyflawn yw'r prif resymau pam oedi gydag atgyfeiriadau wrth i ALAS geisio cael rhagor o wybodaeth. Rhagwelir y bydd gostyngiad yn y nifer o fesuriadau anghyflawn neu anghywir yn arwain at ddosbarthu cyfarpar yn gynt. Bydd y gwelliannau yng nghywirdeb y wybodaeth gychwynnol yma yn lleihau oedi i’r defnyddwyr gwasanaeth hynny sydd angen asesiad pellach.

 
Argymhelliad 15

Rydym yn argymell, fel mater o frys, y dylai Llywodraeth Cymru egluro a chyhoeddi’r polisïau a’r trefniadau ar gyfer cyllido ar y cyd â sefydliadau ac unigolion.

 

Y Diweddaraf

 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad ar sut i sefydlu a chyflenwi partneriaethau a chyllidebau cyfun drwy wefan AGGC yn http://www.ssiacymru.org.uk/partnerships

 

Mae BILlau  eisoes yn ymgymryd â chyllido ar y cyd gyda sefydliadau felWhizz Kids er enghraifft ar gyfer codi o sedd. Gellir cynnal addasiadau cadair olwyn wedi’u hunan ariannu (nad oes eu hangen at ddibenion iechyd) hefyd ar yr amod nad ydynt yn peryglu diogelwch neu ymarferoldeb y gadair olwyn.

 

Gweler hefyd yr ymateb i Argymhelliad 17.

 

 

Argymhelliad 16

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n egluro ac yn cyhoeddi eu polisïau a’u trefniadau ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a brynir gan unigolion.

 

Y Diweddaraf

Y polisi a dderbyniwyd oedd bod y cyfrifoldeb ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio cyfarpar a brynir gan unigolion yn parhau i fod gyda'r unigolyn hwnnw ac mae'r polisi hwn yn parhau.

 

 

Argymhelliad 17

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ymhellach y posibilrwydd o gyfuno cyllidebau sy’n bodoli eisoes, yn enwedig cyllidebau addysg, yng nghyswllt darparu cyfarpar i ddefnyddwyr.

 

Y Diweddaraf

Mae gan Fyrddau Iechyd Lleoleisoes bwerau i sefydlu cyllidebau cyfun a threfniadau gweithio ar y cyd gyda Llywodraeth Leol. Cyn hir bydd y Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol arfaethedig a fydd yn amlinellu pwerau pellach mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth. Fel nodwyd eisoes o dan Argymhelliad 15, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad ar sut i sefydlu a chyflawni partneriaethau a chyllidebau ar y cyd drwy wefan AGGC yn http://www.ssiacymru.org.uk/partnerships

 

Prif ffocws y Bwrdd Partneriaeth hyd yma fu cyflenwi amseroedd aros gwell a chynyddu capasiti. Caiff Llywodraeth Leol ei gynrychioli ar y Bwrdd Partneriaeth ac mae cyfle yn awr i edrych ar ffyrdd o wella cyflenwi gwasanaeth drwy weithio ar y cyd pellach (gan gynnwys cyllidebau cyfun) a chaiff hyn ei gynnwys yn y rhaglen waith ar gyfer 2012.

 

 

Argymhelliad 18

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu trefniadau benthyca cadeiriau olwyn tymor byr, nad ydynt yn cael eu darparu gan ALAS, i  sicrhau bod digon o adnoddau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.

 

Y Diweddaraf

Y cam cyntaf tuag at gyflawni hyn yw cynnal nifer o gynlluniau peilot a gaiff eu cyflenwi gan y Groes Goch Brydeinig(Cymru) ar y cyd â GIG (Cymru). Bydd y rhain yn cael eu hariannu i ddechrau gan y Gymdeithas a Llywodraeth Cymru sydd wedi darparu swm o £100K y flwyddyn am y blynyddoedd 2011/12, 2012/13 a 2013/14.

Caiff y cynlluniau peilot eu cyflenwi gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae deilliannau disgwyliedig y prosiect yn cynnwys:

·         Cynhyrchu Manyleb Model Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaeth cadeiriau olwyn byr dymor, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd.

·         Gwasanaeth â meini prawf mynediad safonol, offer ac argaeledd

·         Mwy o weithio integredig o fewn cwmpas y Bwrdd Iechyd, Awdurdod Lleol a'r y Groes Goch Brydeinig.

·         Cyfeirio cliriach i wella cyflymder mynediad at y rhai sydd ag angen cadair olwyn byr dymor.

·         Datblygu system rheoli data TG priodol gan y Groes Goch Brydeinig i fonitro’r defnydd a’r deilliannau ar gyfer y gwasanaeth cadair olwyn byr dymor.

 

Argymhelliad 19

Rydym yn argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y ceir cydweithio agosach rhwng ALAS a’r sawl sy’n darparu cadeiriau olwyn am fenthyciadau tymor byr, yn enwedig y Groes Goch Brydeinig.

 

Y Diweddaraf

Sefydlwyd grŵp Benthyg Cadair Olwyn byr dymor dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gwahoddwyd cynrychiolwyr i ymuno â’r grŵp o ALAS, y Groes Goch Brydeinig (Cymru), AGAAGI, ynghyd â chynrychiolwyr o gyrff eraill y GIG a Llywodraeth Cymru.
Penderfynodd y gr
ŵp ganolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol i ddechrau:

·         Defnydd o Gyfarpar: Casglu cyfarpar ei gilydd gan ddefnyddwyr os yn bosibl, a thrwy hynny arbed amser, tanwydd a gwella amseroedd gweithredu.

·         Hyfforddiant: Darparu peth hyfforddiant ar gyfer timau'r Groes Goch Brydeinig.

·         Caffael:Adolygu trefniadau prynu er mwyn gweld a oes modd negydu gwell telerau gyda chyflenwyr gan ymestyn hynny o bosib i gynnwys darnau sbâr ayb.

·         Rhannu Gwybodaeth:Hwyluso rhannu gwybodaeth briodol wrth i gynlluniau gael eu symud yn eu blaen.

 

Symudwyd ymlaen yn y meysydd hyn fel a ganlyn

 

Defnydd o Gyfarpar

Ceir enghreifftiauda ar draws Cymru o gyfarpar yn cael ei ddefnyddio gan y ddau wasanaeth a'i ddychwelyd i’w gilydd gan arbed amser ac adnoddau eraill.

Hyfforddiant

Cyfarfu'r hyfforddwr ALAS gyda thimau'r Groes Goch Brydeinig (Cymru) gan adolygu eu dogfennaeth hyfforddiant. Cynhaliwyd y r hyfforddiant cychwynnol gyda 5 aelod o'r Groes Goch yn ALAS Caerdydd ar 4 Chwefror 2011 gyda sesiynau pellach wedi’u trefnu yn Ebrill a Mai ar  gyfer staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch.

Caffael

Ers hynny cynghorwyd y grŵp nad yw’n bosibl ymestyn contract caffael cadeiriau olwyn yr GIG i gynnwys y Groes Goch Brydeinig (Cymru).

Rhannu Gwybodaeth

Mae'r Cytundeb Cymru ar Rannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) yn darparu fframwaith ar gyfer sefydliadau sy'n darparu gwasanaeth a sefydliadau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â lles unigolyn i rannu gwybodaeth rhyngddynt mewn ffordd gyfreithlon a deallus.

Mynychodd Richard Howells, aelod o'r tîm cenedlaethol sy’n datblygu WASPI, y cyfarfod ar 5 Ionawr 2011 i gyflwyno WASPI a thrafod sut y gellid ei ddefnyddio i sefydlu Protocol Rhannu Gwybodaeth rhwng y sefydliadau os oes angen.

 

Bellach mae'r gwaith yma yn symud ymlaen fel prosiect gyda'r Groes Goch Brydeinig (Cymru)  fel nodir yn Argymhelliad 18 uchod ac yn cael ei adrodd i'r Bwrdd Partneriaeth Ystum Corff a Symudedd.

 

 

Argymhelliad 20

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod trefniadau cynnal a chadw ac atgyweirio ALAC Caerdydd ac ALAC Wrecsam yn parhau i gael eu hadolygu, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni’r safonau gofynnol.

 

Y Diweddaraf

Mae safonau wedi cael eu datblygu ac maent yn cael eu defnyddio gan y BILlau i fonitro eu perfformiad eu hunain.

 

Mae gwasanaeth De Cymru wedi sicrhau hyblygrwydd o ran cyflenwi gwasanaeth ers gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn fewnol ac mae gwasanaeth torri i lawr ar gael 24/7 o 7yb tan 9yh

 

Yng Ngogledd Cymrucynhelir cyfarfodydd adolygu chwarterol gyda'r Atgyweiriwr Cymeradwy lle caiff ystadegau perfformiad eu monitro yn ogystal â derbyn adroddiadau misol.

 

 

Argymhelliad 21

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ALAS yn ymgynghori â defnyddwyr a rhanddeiliaid am eu hanghenion cyn cynnal unrhyw broses dendro yn y dyfodol ar gyfer contractau atgyweirio a chynnal a chadw.

 

Y Diweddaraf

Mae defnyddwyr gwasanaeth a chynrychiolwyr wedi bod yn rhan o'r broses contractio cadeiriau olwyn gan fynychu sesiynau dewis cynnyrch a chyflwyniadau mewn gwasanaethau ALAS. Cafodd cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth eu cynnwys yn llawn yn y broses i ddewis y gyfres newydd o gadeiriau olwyn yn y contract a fydd yn dechrau ar 1/4/2012 ac a fydd yn rhedeg am 3 blynedd.

 

Bydd yr ymgynghoriad Ffrwd Waith Ymgysylltu Defnyddiwr Gwasanaeth (gweler Argymhelliad 8) a gynhaliwyd mewn partneriaeth â'r Kafka Brigade hefyd yn casglu unrhyw brofiadau defnyddwyr gwasanaeth sy'n berthnasol i'r argymhelliad hwn.

 

 

Argymhelliad 22

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau y cyflenwir adolygiadau rheolaidd i ddefnyddwyr, yn enwedig i blant ac i ddefnyddwyr eraill â chyflyrau sy’n newid.

 

 

Y Diweddaraf

Mae safonau wedi cael eu diffinio ac yn cael eu hystyried fel rhan o ddangosyddion ansawdd y ffrwd waith. Cydnabyddir y bydd amlder adolygiadau yn amrywio rhwng defnyddwyr ac mae gwaith pellach yn cael ei drefnu ar gyfer Mawrth 2012

 

Argymhelliad 23

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ALAS yn archwilio cyfleoedd i gydweithio ag elusennau i ddarparu hyfforddiant i ddefnyddwyr.

 

Y Diweddaraf

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid am y 2 flynedd nesaf i sefydlu cyrsiau hyfforddi cadeiriau olwyn i gefnogi hyfforddiant defnyddwyr gwasanaeth, yn enwedig rhai cleientiaid Paediatrig arbennig. Mae tendr yn cael ei ddrafftio gan yr AGAAGI er mwyn darparu'r hyfforddiant yma ar draws Cymru.